Dwyrain Bro Tathan 
Cyfle ailddatblygu strategol yn cynnwys tua 130 erw sy’n addas ar gyfer cyfleoedd mewnfuddsoddi mawr a rhoi dros 2 miliwn troedfedd sgwâr o ofod llawr er mwyn bodloni bron unrhyw angen meddiannaeth. Mae Dwyrain Bro Tathan yn un o’r cyfleoedd cyflogaeth strategol mwyaf yn y DU.

Aston_Martin_DBX_at_St_Athan21-jpg.jpg

Dwyrain Bro Tathan

Cyfle datblygu ar raddfa fawr ar gyfer defnydd B1/B2 a B8 gyda mynediad ochr yr awyr


130 erw (52.61 hectar) o dir wedi’i glirio a’i wasanaethu yn barod ar gyfer ei ddatblygu


Mae’n elwa gan fynedfa annibynnol 


Mynediad at redfa weithredol 1,800m o hyd gyda gwasanaethau ochr yr awyr ategol


5 milltir o Faes Awyr Caerdydd


Statws Parth Menter


 
images EAST 27MAR update2.jpg

Dwyrain Bro Tathan

Dwyrain Bro Tathan yw’r cyfle datblygu strategol mwyaf sy’n ymestyn am 130 erw ac yn cynnig safle datblygu wedi’i glirio a’i wasanaethu gyda’r potensial ar gyfer 2 miliwn troedfedd sgwâr o ddefnyddiau diwydiannol B1, B2 a B8. Mae Dwyrain Bro Tathan, sydd wedi’i leoli nesaf at Aston Martin Lagonda, mewn man amlwg ar y safle gyda’i fynedfa annibynnol ei hun.

Mae Dwyrain Bro Tathan yn elwa o gael mynediad at redfa a drwyddedir gan y CAA sy’n rhoi hyblygrwydd ar gyfer ystod o ddefnydd a gofynion meddiannnaeth.

Mae cais cynllunio amlinellol yn cael ei ddrafftio gan gynghorwyr Llywodraeth Cymru ar gyfer Dwyrain Bro Tathan a fydd yn nodi uchafswm a lleiafswm y cynllun a fyddai’n cael ei ystyried yn dderbyniol ar y safle.


Cyfleoedd eraill