Datganiad hygyrchedd 

 

Datganiad hygyrchedd ar gyfer Brotathan

Caiff y wefan hon ei rhedeg gan Brotathan. Rydym eisiau i gymaint â phosibl o bobl allu defnyddio’r wefan hon. Golyga hynny, er enghraifft, y dylech allu:

  • chwyddo i mewn i hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin

  • symud o gwmpas y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd

  • symud o gwmpas y rhan fwyaf o’r wefan gyda meddalwedd adnabod llais

  • defnyddio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud iaith y wefan mor syml â phosibl i’w deall.

Mae cyngor ar AbilityNet ynglŷn â gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • dydy’r testun ddim yn ail-lifo mewn colofn sengl pan fyddwch yn newid maint ffenestr y porwr

  • does dim modd addasu uchder llinellau na bylchiad y testun

  • nid yw meddalwedd darllen sgrin y gweithio bob amser gyda’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn

  • does dim capsiynau gyda fideos byw

  • mae rhai o’n ffurflenni ar-lein yn anodd eu trin gyda bysellfwrdd yn unig

  • does dim modd neidio i’r prif gynnwys wrth ddefnyddio meddalwedd darllen sgrin

Beth i’w wneud os na allwch gyrchu rhannau o’r wefan hon

Os oes arnoch angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print mawr, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:

e-bostiwch post@elfen.co.uk

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn teimlo nad ydym yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd.

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). 



Gwybodaeth dechnegol ynglŷn â hygyrchedd y wefan hon

Mae Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth wedi ymrwymo i wneud ei wefannau’n fwy hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1

Cynnwys hygyrch

Mae’r cynnwys sydd ddim yn hygyrch wedi’i nodi isod gyda manylion:

  •  lle mae’n methu’r meini prawf llwyddiant

  • dyddiadau a gynlluniwyd ar gyfer datrys y problemau

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Does dim testun amgen ar gyfer rhai delweddau, felly ni fydd pobl sy’n defnyddio meddalwedd darllen sgrin yn gallu cael y wybodaeth. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.1.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 (cynnwys heb destun).

Bwriadwn ychwanegu testunau amgen ar gyfer pob delwedd erbyn mis Medi 2020. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd byddwn yn gwneud yn siŵr bod sut rydym yn defnyddio delweddau yn bodloni’r safonau hygyrchedd.

Baich anghymesur

Ddim yn berthnasol

Gwe-lywio a chyrchu gwybodaeth

Does dim ffordd o neidio dros y cynnwys sy’n ailadrodd ym mhennyn y dudalen (er enghraifft, dewis ‘neidio i’r prif gynnwys’). Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 (osgoi rhwystrau).

Nid yw bob amser yn bosibl newid cyfeiriadedd y ddyfais o lorweddol i fertigol heb ei gwneud hi’n anoddach i weld y cynnwys. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.4 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 (cyfeiriadedd).

Nid yw’n bosibl i ddefnyddwyr newid maint y testun heb i rywfaint o’r cynnwys orgyffwrdd. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.4.4 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 (ailfeintio testun).

Cynnwys sydd ddim o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Nid yw llawer o’n dogfennau PDF a Word hŷn yn bodloni safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai nad ydynt wedi’u strwythuro fel eu bod yn hygyrch i feddalwedd darllen sgrin. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 4.1.2 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 (enw, rôl, gwerth).

Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF gyda gwybodaeth ynglŷn â sut gall defnyddwyr ddefnyddio ein gwasanaethau, a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word. Erbyn mis Medi 2020 ein bwriad yw naill ai cywiro’r rhain neu eu disodli gyda thudalennau HTML hygyrch.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni gywiro dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarpariaeth ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu cywiro [example of non-essential document].

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd y byddwn yn eu cyhoeddi yn bodloni’r safonau hygyrchedd.

Fideos byw

Nid oes capsiynau ar fideos byw. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.2.4 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 (capsiynau - byw).

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau i fideos byw gan nad oes disgwyl bod fideos byw yn bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.

Sut y gwnaethom brofi’r wefan

Mae’r wefan wedi cael, ac mae’n dal i gael, ei phrofi ar gyfer cydymffurfiad â lefel A a lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, ac mae’r profion hyn wedi cael eu cynnal yn fewnol.

Gwnaethom ddefnyddio dull Methodoleg Gwerthuso Cydymffurfiad Hygyrchedd Gwefannau (WCAG-EM) i benderfynu ar sampl o dudalennau i’w profi.

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn bwriadu canfod a chywiro problemau gan ddilyn yr amserlenni a ddangosir ar gyfer pob maes uchod.

Paratowyd y datganiad hwn ar 14 Chwefror 2020. Fe’i diweddarwyd ddiwethaf ar 14 Chwefror 2020.