Gorllewin Bro Tathan 
Gyda mynediad at redfa cwbl weithredol 1,800m o hyd, mae Gorllewin Bro Tathan yn ddelfrydol ar gyfer busnesau Cynnal a Chadw, Atgyweirio ac Archwilio (MRO) sydd angen mynediad a gwasanaethau ochr yr awyr. Mae Keithrow yng Ngorllewin Bro Tathan yn cynnig y cyfle i ddarparu hyd at 40,000m sgwâr o ofod awyrendy hyblyg ynghyd â’r seilwaith cysylltiedig. Mae cyfleoedd ar gael yn Keithrow fel plotiau datblygu neu ar sail cynllunio ac adeiladu.

Keithrow CGI images2.jpg

Gorllewin Bro Tathan
Cyfleoedd datblygu ar gyfer defnydd B1, B2 a B8 gyda mynediad ochr yr awyr


20 erw (8.15 hectar)


Caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer 40,000m sgwâr (414,760 troedfedd sgwâr) o gyfleusterau diwydiannol gweithredol ochr yr awyr hyblyg


Delfrydol ar gyfer Gweithrediadau Cynnal a Chadw, Atgyweirio ac Archwilio


Mynediad at redfa weithredol 1,800m o hyd gyda gwasanaethau ochr yr awyr ategol


Cymuned hedfanaeth sefydledig, 5 milltir o Faes Awyr Caerdydd sydd â Statws Parth Menter


 
images GOTR 27MAR update2.jpg

Bro Tathan West – Keithrow

Mae Keithrow yn llunio rhan o Orllewin Bro Tathan ac mae’n cynnig plotiau wedi’u gwasanaethu neu becynnau cynllunio ac adeiladu ar gyfer llety awyrendy a chyfleusterau diwydiannol ochr yr awyr cysylltiedig eraill.

Gellir cael mynediad i Keithrow ar hyd ffordd fynediad newydd sydd yn union nesaf at Y Porth, porth strategol Bro Tathan. Wedi’i leoli rhwng cartref trydaneiddiad Aston Martin Lagonda ac atredfa Echo, mae Keithrow yn rhoi mynediad uniongyrchol i redfa sydd wedi’i thrwyddedu gan CAA ym Mro Tathan ac mae’n ddelfrydol ar gyfer busnesau sydd angen mynediad ochr yr awyr.

Mae gan Keithrow ganiatâd cynllunio amlinellol sy’n amlinellu creu awyrdai ochr yr awyr mewn amrywiaeth o baramedrau o ran hyd, lled ac uchder a chyfanswm gofod llawr o 40,000 meter sgwâr (414,760 troedfedd sgwâr) gan roi hyblygrwydd ar gyfer meintiau a nifer yr awyrendai y gellir eu datblygu ar y safle er mwyn bod yn addas i’r angen o ran meddiannaeth.


Cyfleoedd Eraill