Y newyddion, erthyglau a gwybodaeth ddiweddaraf o Bro Tathan.
Newyddion
Caffael Pŵer Bro Tathan – Diweddariad ar y Farchnad – Mehefin 2026
Mae’r Awdurdod yn darparu’r diweddariad hwn yn dilyn yr ymarfer ymgysylltu â’r farchnad a gynhaliwyd yn ddiweddar mewn cysylltiad â Chaffael Pŵer Bro Tathan (y “Caffaeliad”), fel y’i hysbysebwyd drwy’r hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad (Cyf. [2026/S 000-060756]) a gyhoeddwyd ar wasanaeth Find a Tender (FTS) y DU a llwyfan Sell2Wales. (Dolen – Diweddariad ar Gaffael Pŵer Bro Tathan – Find a Tender)
Dylai cyflenwyr sydd â diddordeb nodi bod yr Awdurdod ar hyn o bryd yn adolygu’r holl ymatebion a dderbyniwyd yn ystod yr ymarfer ymgysylltu â’r farchnad diweddar ar gyfer y Caffaeliad, ac yn datblygu’r dogfennau tendro cysylltiedig ymhellach.
Mae’r Awdurdod yn bwriadu cyhoeddi diweddariad pellach ynghylch y Caffaeliad maes o law. Ar hyn o bryd, rhagwelir y bydd y Caffaeliad yn cael ei lansio’n ffurfiol yn ystod 2026 drwy gyhoeddi hysbysiad tendro ar y gwasanaeth FTS a llwyfan Sell2Wales.
Darperir y diweddariad hwn at ddibenion gwybodaeth yn unig ac nid yw’n gyfystyr â galwad ffurfiol am gystadleuaeth, gwahoddiad i dendro, nac ymrwymiad gan yr Awdurdod i ddechrau’r Caffaeliad o fewn unrhyw amserlen benodol, nac o reidrwydd o gwbl.
Dylai cyflenwyr sydd â diddordeb fonitro gwefan yr Awdurdod am unrhyw ddiweddariadau yn y dyfodol mewn perthynas â’r Caffaeliad (https://www.brotathan.wales/news), yn ogystal â’r gwasanaeth FTS a llwyfan Sell2Wales.
Diweddariad Ymgysylltu â’r Farchnad Pŵer Bro Tathan – Mai 2026
Fel rhan o’i weithgareddau ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad, mae Llywodraeth Cymru yn darparu i bob sefydliad sydd wedi cofrestru diddordeb yn y caffaeliad Pŵer Bro Tathan sydd ar ddod, holiadur mewn perthynas â’r prosiect. Cyfeiriwch at yr hysbysiad Pŵer Bro Tathan , sy’n egluro sut y gall sefydliadau nad ydynt eto wedi cofrestru eu diddordeb yn y caffaeliad sydd ar ddod wneud hynny, yn ogystal â diben bwriadedig yr holiadur.
Dylid anfon ymatebion i’r holiadur drwy e-bost at robert.stokes@burroughs.co.uk erbyn dim hwyrach na 15 Mai 2026.
Ceir hefyd y cyflwyniad a ddarparwyd i gyflenwyr fel rhan o’r ymarfer ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad.
Bro Tathan ymgysylltu â’r farchnad - Mawrth 2026
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgysylltiad marchnad rhagarweiniol ar gyfer Prosiect Pŵer Bro Tathan sydd ar ddod. Gall sefydliadau sydd â diddordeb gael mynediad at y Memorandwm Gwybodaeth yma, ynghyd â’r diagram un llinell dangosol a’r papurau cyfreithiol a masnachol ategol, er mwyn deall y prosiect arfaethedig, y model cyflawni a’r dull caffael disgwyliedig.
Mae Llywodraeth Cymru a’i chynghorwyr hefyd yn cynnig cyfarfodydd gyda sefydliadau sydd â diddordeb, gyda rhagor o wybodaeth am sut i ofyn am gyfarfod wedi’i nodi yn y Memorandwm Gwybodaeth.