Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi’n sylweddol ym Mro Tathan er mwyn creu amgylchedd llewyrchus i fusnesau ffynnu ac rydym yn eich gwahodd i gymryd golwg a bod yn rhan o’n cymuned sy’n tyfu.

Trosolwg


BT_generic.jpg

Mae Bro Tathan yn dechrau ar gam nesaf ei esblygiad cyffrous i greu mannau arloesol ar gyfer busnesau gan gynnig ysed o gyfleoedd datblygu a meddiannaeth. Wedi’u trefnu dros safle sy’n mesur tua 1,200 erw ynghyd â’i redfa gwbl weithredol ei hun, mae Bro Tathan wedi’i leoli’n strategol ym Mharth Menter Maes Awyr Caerdydd a Bro Tathan, 5 milltir o Faes Awyr Caerdydd ac o fewn cyrraedd hawdd i draffordd yr M4 a rhai o ddinasoedd mawr y DU. Mae’r perchennog, Llywodraeth Cymru, yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol yn y seilwaith i greu amgylchedd ffyniannus ym Mro Tathan.


Aston_Martin_DBX_at_St_Athan21-jpg.jpg

Mae Bro Tathan, sydd wedi’i nodi fel lleoliad cyflogaeth strategol gan yr awdurdod lleol, yn ddarostyngedig i nifer o geisiadau cynllunio mawr presennol ac ar y gweill. Bydd hyn yn rhoi datrysiadau cyflym ac wedi’u gwasanaethu ar gyfer ystod eang o feddianwyr, yn cynnwys y rheini a allai fod angen gwasanaethau ochr yr awyr.

Mae hwn yn amgylchedd hirsefydledig a ffyniannus sy’n gartref i gwmnïau rhyngwladol mawr, gan greu amgylchedd lle gall eich busnes fynnu. Mae manteision Bro Tathan, sy’n cynnwys seilwaith sy’n bodoli’n barod a newydd, cronfa lafur o ansawdd uchel a llywodraeth sy’n weithgar mewn denu mewnfuddsoddiad, wedi annog nifer o fusnesau i symud yno.


Busines.jpg

Mae hyn yn cynnwys creu rhedfa a weithredir yn breifat a hefyd ffordd fynediad newydd sydd wedi gwella’n sylweddol gysylltedd i’r safle. Mae Bro Tathan, sydd wedi’i nodi fel lleoliad cyflogaeth strategol gan yr awdurdod lleol, yn ddarostyngedig i nifer o geisiadau cynllunio mawr presennol ac ar y gweill. Bydd hyn yn rhoi datrysiadau cyflym ac wedi’u gwasanaethu ar gyfer ystod eang o feddianwyr, yn cynnwys y rheini a allai fod angen gwasanaethau ochr yn awyr.


Mae gwasanaethau ochr yr awyr ar gael i’ch busnes ar y ddaear ac yn yr awyr.


Rhedfa 1,800 metr o hyd cwbl weithredol sy’n bodloni bron i holl ofynion awyrennau ac wedi’i thrwyddedu gan y CAA fel cyfleuster Cod 4E gyda chryfder palmentydd i ddiwallu’r gofynion hyn.  


Cyfleuster ATC a adnewyddwyd yn ddiweddar sy’n rhoi parhad o ran gwasanaethau a thraffig lleol gyda gwasanaethau Traffig Awyr Caerdydd a dogfennaeth angenrheidiol ar gyfer cyrchfannau byd-eang.


Yn wahanol i bron bob lleoliad arall yn y DU, mae gan Fro Tathan hygyrchedd arwyneb ynghyd â chyfleuster gofod awyr unigryw, wedi’i leoli o fewn Gofod Awyr Rheoledig (CAS) cysylltiedig â Maes Awyr Caerdydd sy’n golygu bod gan draffig awyr amgylchedd rheoledig.

Amgylchedd sy’n creu galluoedd sylweddol ar gyfer hyfforddiant hedfan a phrofi hediadau wedi gwaith cynnal a chadw.  

Mae ILS CAT I wedi’i leoli ar y maes awyr ac yn gwasanaethu rhedfa 25.

Caiff pob ardal ei gwasanaethu gan atredfeydd a phalmentydd pwrpasol sy’n briodol i awyrennau fel y cedwir hygyrchedd drwy’r amser. 

Tanwyddau hedfan ar gael  Jet A1 ac Avgas.

Darperir Gwasanaethau Tân Maes Glanio hyd at Gategori 5 gyda 6 a 7 ar gael.

Mae Gwasanaethau Traffig Awyr a ddarperir yn yr ardal hon gan Faes Awyr Caerdydd yn rhoi gallu radar sylfaenol ac eilaidd a lefel o wasanaethau sy’n briodol i weithgaredd.