Parc busnes sydd â photensial datblygu ar gyfer hyd at tua 3 miliwn troedfedd sgwâr o ofod llawr ar gyfer cyflogaeth ac sydd eisoes yn gartref i gwmnïau mawr megis Aston Martin Lagonda, eCube Solutions a Caerdav. Mae Bro Tathan yn dechrau ar gam nesaf ei esblygiad cyffrous i greu cyrchfan arloesol ar gyfer busnesau gan gynnig ystod o gyfleoedd datblygu a meddiannaeth.

Cyfleoedd Presennol


Y Porth


Y Porth CGI images.jpg

Porth strategol i Fro Tathan sy’n darparu plotiau datblygu wedi’u gwasanaethu a fwriedir ar gyfer defnydd cymysg sy’n cynnwys swyddfeydd, cyfleusterau pencadlys, ystafelloedd arddangos yn ogystal â cyfleoedd manwerthu a hamdden sydd â’r nod o ddarparu gwasanaethau i ddefnyddwyr a meddianwyr.   

Rhagor

Gorllewin Bro Tathan


Keithrow CGI images.jpg

Mae Gorllewin Bro Tathan yn cynnig cyfleoedd datblygu ar gyfer dros 400,000 troedfedd sgwâr o ofod awyrendy newydd a hyblyg ynghyd â’r seilwaith cysylltiedig sydd ar gael fel plotiau datblygu wedi’u gwasanaethu neu ar gyfer cynllunio ar adeiladu. 

Rhagor

Dwyrain Bro Tathan


images EAST 27MAR update2.jpg

Cyfle ailddatblygu sylweddol yn cynnwys tua 130 erw sy’n addas ar gyfer cyfleoedd mewnfuddsoddi ar raddfa fawr neu ar gyfer ystod o weithredwyr gweithgynhyrchu neu ymchwil a datblygu ar raddfa fach fel pecynnau cynllunio ac adeiladu. 

Rhagor

Lawrlwytho llyfryn

Lawrlwytho map